1 Cronicl 1:41-49 beibl.net 2015 (BNET)

41. Mab Ana:Dishon.Meibion Dishon:Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran.

42. Meibion Etser:Bilhan, Saafan, a Iacân.Meibion Dishan:Us ac Aran.

43. Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.

44. Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.

45. Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.

46. Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)

47. Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.

48. Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.

49. Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.

1 Cronicl 1