1 Cronicl 1:19-28 beibl.net 2015 (BNET)

19. Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Enw ei frawd oedd Ioctan.

20. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,

21. Hadoram, Wsal, Dicla,

22. Obal, Abima-el, Sheba,

23. Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.

24. Cangen arall o deulu Shem:Shem, drwy Arffacsad, Shelach,

25. Eber, Peleg, Reu,

26. Serwg, Nachor, Tera,

27. i Abram (sef Abraham).

28. Meibion Abraham:Isaac ac Ishmael.

1 Cronicl 1