17. Meibion Shem:Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech.
18. Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.
19. Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Enw ei frawd oedd Ioctan.
20. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,
21. Hadoram, Wsal, Dicla,
22. Obal, Abima-el, Sheba,
23. Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
24. Cangen arall o deulu Shem:Shem, drwy Arffacsad, Shelach,
25. Eber, Peleg, Reu,
26. Serwg, Nachor, Tera,
27. i Abram (sef Abraham).
28. Meibion Abraham:Isaac ac Ishmael.
29. A dyma eu disgynyddion nhw:Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,
30. Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema,
31. Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael.
32. Meibion Cetwra, partner Abraham:Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.Meibion Iocsan:Sheba, a Dedan.
33. Meibion Midian:Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.
34. Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel.