1 Corinthiaid 7:19-32 beibl.net 2015 (BNET)

19. Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.

20. Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu.

21. Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi.

22. Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia!

23. Mae pris uchel wedi ei dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl.

24. Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu.

25. I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!):

26. Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi.

27. Os wyt ti wedi dyweddïo gyda merch, paid ceisio datod y cwlwm. Os wyt ti'n rhydd, paid ag edrych am wraig.

28. Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny.

29. Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;

30. dim y galar na'r llawenydd ddaw i'n rhan; dim prynu pethau, wedi'r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw!

31. Waeth heb ag ymgolli yn y petheuach sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben!

32. Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio.

1 Corinthiaid 7