16. Dwyt ti ddim yn gwybod, wraig, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy ŵr! Neu ti'r gŵr, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy wraig!
17. Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae'r Arglwydd wedi'ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu. Mae hon yn rheol dw i'n ei rhoi i bob un o'r eglwysi.
18. Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod trwy'r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy'r ddefod nawr.
19. Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
20. Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu.
21. Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi.
22. Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia!
23. Mae pris uchel wedi ei dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl.
24. Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu.
25. I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!):
26. Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi.