1 Corinthiaid 5:11-13 beibl.net 2015 (BNET)

11. Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw ei hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!

12. Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i'r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy'n perthyn i'r eglwys.

13. Duw sydd yn barnu pobl o'r tu allan. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o'ch plith.”

1 Corinthiaid 5