4. Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
5. Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni.
6. Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni!
7. Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant.
8. Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain.
9. Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi ei roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad –
10. fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,
11. am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
12. Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda coed, gwair a gwellt
13. – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi ei wneud.
14. Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo.
15. Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!
16. Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?
17. Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio ei deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!