1 Corinthiaid 2:8-12 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.

9. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”

10. Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni – ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!

11. Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.

12. A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.

1 Corinthiaid 2