1. Frodyr a chwiorydd annwyl, nid dawn dweud slic a rhyw areithiau clyfar gawsoch chi gen i pan oeddwn i'n cyhoeddi beth oedd cynllun Duw i chi.
2. Roeddwn i'n benderfynol mai dim ond un peth oedd i gael sylw – marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes.
3. Pan oeddwn i gyda chi roeddwn i'n teimlo'n wan iawn, yn ofnus ac yn nerfus.
4. Dim llwyddo i'ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi'n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith!
5. Roeddwn i eisiau i chi ymateb i rym Duw ei hun, dim i ryw syniadau oedd yn swnio'n ddoeth.
6. Ac eto mae'r neges dŷn ni'n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae'r bobl sy'n gwrando arni yn dangos eu bod nhw'n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy'n llywodraethu chwaith – mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag!
7. Na, dirgelwch gan Dduw ydy'r doethineb dŷn ni'n sôn amdano. Roedd wedi ei guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi ei drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi ei gadw i ni gael rhannu ei ysblander trwyddo.
8. Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.