32. Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni'n marw fory!”
33. Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
34. Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi'n gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chi'n gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
35. Ond wedyn dw i'n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae'r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?”
36. Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy'n cael ei hau yn y ddaear farw.
37. A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth – gwenith falle, neu rywbeth arall.
38. Ond mae Duw yn rhoi ‛corff‛ newydd iddo, fel mae'n dewis. Mae gwahanol blanhigion yn tyfu o wahanol hadau.
39. A dydy corff pob creadur byw ddim yr un fath chwaith: mae gan bobl un math o gorff, ac anifeiliaid fath arall, mae adar yn wahanol eto, a physgod yn wahanol.
40. Ac mae yna hefyd gyrff nefol a chyrff daearol. Mae harddwch y gwahanol gyrff nefol yn amrywio, ac mae harddwch y gwahanol gyrff daearol yn amrywio.
41. Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae'r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a'r llall.
42. Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw'n atgyfodi. Mae'r corff sy'n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod.
43. Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!