17. Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser – dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau.
18. Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd.
19. Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!
20. Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi.
21. Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd.
22. Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd.
23. Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.
24. Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus.
25. Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed.
26. A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.
27. Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” – ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf!
28. Ar ôl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.
29. Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr.
30. A beth amdanon ni! Pam dŷn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg?