1. Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau eich atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi.
2. Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud.
3. Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.
4. Yna ei fod wedi ei gladdu, a'i fod wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud.
5. Wedyn bod Pedr wedi ei weld, a'r deuddeg disgybl.
6. Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw.
7. Yna gwelodd Iago fe, a'i gynrychiolwyr eraill i gyd.
8. Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol.
9. Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.
10. Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi.
11. Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy'n gwneud y cyhoeddi – dyma'r neges sy'n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi ei gredu.
12. Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi?
13. Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith.
14. Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!
15. Bydd hi'n dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni'n tystio bod Duw wedi codi'r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi.
16. Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith.
17. Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser – dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau.
18. Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd.
19. Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!