1 Corinthiaid 14:28-39 beibl.net 2015 (BNET)

28. Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.

29. Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud.

30. Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi.

31. Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.

32. Mae ysbryd y proffwydi dan reolaeth y proffwydi.

33. Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.

34. “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud.

35. Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”

36. Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl y mae neges Duw wedi dod atyn nhw?

37. Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw.

38. Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain!

39. Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr.

1 Corinthiaid 14