23. Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof!
24. Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn.
25. Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! – mae Duw yn eich plith chi!”
26. Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu – cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi ei ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys.
27. Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau – neu dri ar y mwya – ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud.
28. Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.
29. Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud.
30. Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi.
31. Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.
32. Mae ysbryd y proffwydi dan reolaeth y proffwydi.
33. Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.
34. “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud.
35. Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”