1. Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo.
2. Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd.
3. Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw.
4. Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys.
5. Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!)
6. Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi ei ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi.
7. Mae'r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol?
8. Neu meddyliwch am utgorn yn canu – os ydy'r sain ddim yn glir, pwy sy'n mynd i baratoi i fynd i ryfel?
9. Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad gyda'r gwynt!
10. Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun.
11. Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid i'n gilydd!