1 Corinthiaid 12:4-18 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un.

5. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd.

6. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd.

7. Ac mae'r Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall.

8. Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd.

9. Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd.

10. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny.

11. Yr un Ysbryd sydd ar waith trwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un.

12. Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia.

13. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd.

14. Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau.

15. Petai troed yn dweud “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim!

16. Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na!

17. Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A petai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli?

18. Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel oedd e'n gweld yn dda.

1 Corinthiaid 12