1 Corinthiaid 11:5-25 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.

6. Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen.

7. Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig.

8. Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn.

9. A chafodd dyn ddim ei greu er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn dyn.

10. Dyna pam dylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.

11. Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd.

12. Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.

13. Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?

14. Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,

15. ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi ei roi iddi hi fel gorchudd.

16. Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.

17. Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

18. Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.

19. “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?

20. Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd!

21. Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!

22. Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!

23. Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.

24. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”

25. Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”

1 Corinthiaid 11