15. Dyma'r manylion am y gweithlu gorfodol wnaeth Solomon ei godi – i adeiladu teml yr ARGLWYDD, ei balas, y terasau a waliau Jerwsalem, a hefyd caerau amddiffynnol Chatsor, Megido a Geser.
16. (Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi ei llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi ei rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon.
17. Felly dyma Solomon yn ailadeiladu Geser.) Hefyd Beth-choron Isaf,
18. Baalath, a Tamar yn yr anialwch.
19. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
20. Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Roedden nhw'n gorfod gweithio heb dâl i Solomon.
21. (Roedden nhw'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw.
22. Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei swyddogion, ei gerbydwyr, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
23. Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith.
24. Ar ôl i ferch y Pharo symud i fyw o ddinas Dafydd i'r palas roedd Solomon wedi ei adeiladu iddi, dyma Solomon yn adeiladu'r terasau.
25. Dair gwaith y flwyddyn roedd Solomon yn aberthu anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi ar yr allor roedd wedi ei hadeiladu, yn cyflwyno offrymau o rawn i'r ARGLWYDD ac yn llosgi arogldarth gyda nhw. Roedd wedi gorffen y gwaith o adeiladu'r deml.
26. Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom.