38. Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli.
39. Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd "Y Môr" yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml.
40. Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a powlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD.
41. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,
42. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
43. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
44. y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,
45. a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu.Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.