1 Brenhinoedd 7:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.

14. Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo.

15. Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws.

16. Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi ei gastio, dros ddau fetr o uchder.

17. Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi eu plethu o gwmpas y capiau,

18. a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi eu gorchuddio.

19. Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron ddau fetr o uchder.

20. Ar dop y ddau biler, uwch ben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi eu plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.

21. Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachin a'r un ar y chwith yn Boas.

22. Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen.

1 Brenhinoedd 7