11. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’”
12. Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
13. Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.”
14. Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud wrtho i.”