32. Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd.
33. Bydd Joab a'i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr ARGLWYDD yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a'i ddisgynyddion, ei deulu a'i deyrnas am byth.”
34. Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a'i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad.
35. Yna dyma'r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar.
36. Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Dwyt ti ddim i symud oddi yma.
37. Os gwnei di adael a hyd yn oed croesi Nant Cidron byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.”
38. A dyma Shimei yn dweud “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn.
39. Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”.
40. Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision. Yna dyma fe'n dod â nhw'n ôl.