Y Salmau 99:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3. Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4. A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.

5. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.

6. Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a'u gwrandawodd hwynt.

Y Salmau 99