Y Salmau 99:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.

2. Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3. Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4. A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.

Y Salmau 99