Y Salmau 98:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Cenwch i'r Arglwydd gyda'r delyn; gyda'r delyn, a llef salm.

6. Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.

7. Rhued y môr a'i gyflawnder; y byd a'r rhai a drigant o'i fewn.

8. Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd

9. O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.

Y Salmau 98