Y Salmau 96:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

6. Gogoniant a harddwch sydd o'i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.

7. Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd, rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

8. Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd.

Y Salmau 96