Y Salmau 96:11-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a'i gyflawnder.

12. Gorfoledded y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.

13. O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.

Y Salmau 96