Y Salmau 94:11-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.

12. Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith:

13. I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i'r annuwiol.

14. Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15. Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a'r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16. Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?

Y Salmau 94