3. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
4. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
5. Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i'th dŷ, O Arglwydd, byth.