Y Salmau 92:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.

7. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i'w dinistrio byth bythoedd.

8. Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.

9. Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.

10. Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y'm heneinir.

Y Salmau 92