Y Salmau 91:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.

9. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;

10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

11. Canys efe a orchymyn i'w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12. Ar eu dwylo y'th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.

Y Salmau 91