Y Salmau 91:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.

2. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.

3. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.

4. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.

Y Salmau 91