1. Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
2. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a'r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
3. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.
4. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr ĂȘl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.