7. Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.
8. Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
9. Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i'r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
10. A'r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a'th geisient.
11. Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
12. Pan ymofynno efe am waed, efe a'u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.
13. Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
14. Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
15. Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.
16. Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.
17. Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
18. Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.