Y Salmau 9:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.

15. Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16. Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.

Y Salmau 9