Y Salmau 9:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforaf di, O Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2. Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.

3. Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.

4. Canys gwnaethost fy marn a'm mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.

5. Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.

6. Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.

7. Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.

8. Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.

9. Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i'r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.

Y Salmau 9