Y Salmau 88:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A draethir dy drugaredd mewn bedd? a'th wirionedd yn nistryw?

12. A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhir angof?

13. Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.

14. Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

15. Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o'm hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.

16. Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a'm torrodd ymaith.

17. Fel dwfr y'm cylchynasant beunydd, ac y'm cydamgylchasant.

Y Salmau 88