Y Salmau 87:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.

5. Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a'r gŵr a anwyd ynddi: a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi.

6. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.

7. Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Y Salmau 87