9. Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.
10. Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw.
11. Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.
12. Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, รข'm holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
13. Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
14. Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni'th osodasant di ger eu bron.
15. Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.