Y Salmau 86:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd.

4. Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5. Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.

6. Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando รข llais fy ymbil.

7. Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

Y Salmau 86