Y Salmau 85:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i'w bobl, ac i'w saint: ond na throant at ynfydrwydd.

9. Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.

10. Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.

11. Gwirionedd a dardda o'r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.

12. Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a'n daear a rydd ei chnwd.

13. Cyfiawnder a รข o'i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Y Salmau 85