Y Salmau 85:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Graslon fuost, O Arglwydd, i'th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.

2. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.

3. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.

4. Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.

5. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6. Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7. Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.

8. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i'w bobl, ac i'w saint: ond na throant at ynfydrwydd.

Y Salmau 85