Y Salmau 84:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.

10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.

11. Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12. O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.

Y Salmau 84