Y Salmau 84:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd!

2. Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.

3. Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a'm Duw.

4. Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y'th foliannant. Sela.

5. Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a'th ffyrdd yn eu calon:

Y Salmau 84