1. O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw.
2. Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3. Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
4. Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
5. Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i'th erbyn;
6. Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid; y Moabiaid, a'r Hagariaid;