Y Salmau 82:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.

6. Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.

7. Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o'r tywysogion y syrthiwch.

8. Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.

Y Salmau 82