Y Salmau 82:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.

2. Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.

3. Bernwch y tlawd a'r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus.

4. Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

Y Salmau 82