Y Salmau 81:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.

5. Efe a'i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6. Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant รข'r crochanau.

7. Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.

8. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;

9. Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.

Y Salmau 81