Y Salmau 80:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

8. Mudaist winwydden o'r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.

9. Arloesaist o'i blaen, a pheraist i'w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.

10. Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a'i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.

11. Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a'i blagur hyd yr afon.

Y Salmau 80