Y Salmau 80:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Gosodaist ni yn gynnen i'n cymdogion; a'n gelynion a'n gwatwarant yn eu mysg eu hun.

7. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

8. Mudaist winwydden o'r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.

9. Arloesaist o'i blaen, a pheraist i'w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.

10. Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a'i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.

11. Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a'i blagur hyd yr afon.

12. Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?

13. Y baedd o'r coed a'i turia, a bwystfil y maes a'i pawr.

Y Salmau 80